Mae gan fy Nhad lywodraeth Ar bobpeth yn y byd, Fe bïau'r aur a'r arian, A'r cyfan oll i gyd; Fe bïau'r tir a'r moroedd, A lluoedd nef a llawr, - Mae'n Arglwydd ac yn Frenin, A chanddo fyddin fawr. Rhyfeddod o'r dechreuad Yw doeth sefydliad Duw, Yn gosod i bob graddau Derfynau i gyd i fyw; Mae dynion, anifeiliaid, Yr 'hediaid, a phob rhyw, A'r diafol câs, ein gelyn, Tu mewn i derfyn Duw. Yr Arglwydd sydd yn rhwymo Y rhai a fyno 'Fe; Darostwng cedyrn beilchion, A rhoi i dlodion le Ymhlith ei ddewisolion, A'i bendefigion byw, I wel'd, mwynhâu, a phrofi Parhâd daioni Duw. Gall Duw droi llwch y ddaear Yn llau, anhawddgar lu, A'u gwneyd yn fyddin fuddiol I'w bobl, fel y bu, I ymladd â'u gelynion, Fo'n bendefigion byd; Mae'i allu a'i lywodraeth Mor helaeth fawr o hyd. Gall bei i'r locustiaid, Sydd bryfaid gwael di-bris, Ddwyn penau uchel enwog, Coronog, lawer îs; Gan hyny, gwell ymostwng, Mae'n deilwng, ger bron Duw; Gall ddwyn i'r bedd i'n claddu, Neu'n codi i fyny'n fyw. Fe wna y pŷsg, heb esgus, I Dduw waith medrus mawr, Os geilw am un o honyn' I lyncu dyn i lawr, A'i fwrw yn ddiniwed, Fe wna y weithred wych, Pe byddai'n brophwyd cyndyn, Yn sydyn, ar dir sych. Fe ysa'r pryfaid isel, Hyd farw, uchel ŵr; A'r cigfrain, dros ei fawredd, I sant â gwledd yn siwr; Os myn, â buchedd blithion Yn union îs y nen A'i Arch i'r man y myno, Tan feichio, gyda'r fèn.
Edward Jones 1761-1836 [Mesur: 7676D] |
My Father has authority Over everything in the world, He owns the gold and the silver, And all the whole altogether; He owns the land and the seas, And the hosts of heaven and earth, - He is Lord and King, And he has a great army. A wonder from the beginning Is the wisdom of God's foundation, Setting all degrees Of all the boundaries to live; Men, animals, The fliers, and every species, And the detestable devil, our enemy, Are within the boundary of God. The Lord is binding Those whom He will; Subjugating firm proud ones, And giving to poor ones a place Amongs his chosen ones, And his living nobles, To see, enjoy, and experience The continuance of God's goodness. God can turn the dust of the earth To lice, an unpleasant host, And make them a army beneficial To people, as it was, To attack their enemies, Who were the world nobles; His power and his authority are Still so greatly plenteous. The sight of the locusts Which are base, despised insects, Can bring the high, famous, crowned Heads very low; Therefore, better submit, It is worthy, before God; He can bring to the grave to bury us, Or raise us up alive. He makes the fish, without pretence, To God a great, powerful work, If he calls for one of them To swallow a man down, And he expels him unharmed, He does a brilliant work, If the prophet were stubborn, Suddenly, on dry land. The lowly worms will devour, As far as death, a high man; And the carrion crow, for his majesty To saints with a feast for sure; If he will, with a life-style fruitful Directly under the sky And the Ark to the place he wills, Until loading with the wagon. tr. 2015 Richard B Gillion |
|